UWB Crest

Cynhwysion Newydd o Riniau Gwymon

Acwafeithrin

Cynhyrchu gwymon ar raddfa fasnachol
Mae'r prosiect hwn yn ymchwilio i dechnegau dyframaethu er mwyn cynhyrchu rhywogaethau gwymon dethol mewn modd sy'n ymarferol yn fasnachol. Nid oes modd bodloni galw'r farchnad am wymon a'u rhiniau drwy gasglu rhai gwyllt yn unig ac, ar raddfa fyd-eang, roedd 95.5% o'r 19.9 tunnell fetrig o wymon a gynhyrchwyd yn 2010, yn wymon oedd wedi’i ffermio. Nid yn unig mae ffermio gwymon yn lleddfu'r pwysau ar wymon gwyllt a'r ecosystemau maent yn eu cynnal ond mae hefyd yn sicrhau cynnyrch dibynadwy o ansawdd uchel y gellir ei gyflenwi yn ôl y galw i wahanol ddiwydiannau.

Dyframaethu Gwymon Cymreig
Yn y DU, er bod Porphyra spp at ddefnydd y diwydiant bara lawr yn cael ei gasglu â llaw o ffynonellau naturiol, mae’r rhan helaethaf ohono yn dod o ffermydd yn Japan, Gweriniaeth Corea a Tsieina. Cyfyngir cynhyrchu P.palmata a Saccharina latissima - sef y rhywogaeth darged yng nghyswllt y prosiect hwn - i'r hyn a gesglir â llaw ar raddfa fach o adnoddau naturiol at ddefnydd lleol. Fodd bynnag mae’r technegau ar gyfer ei ffermio wedi’u profi a’u dogfennu’n dda ac mae lle i gynhyrchu gwymon ar y môr ar raddfa fasnachol.


Ein Techneg Dyframaethu
Mae ffermio Saccharina latissima a Palmaria palmata yn defnyddio technegau sydd wedi hen ennill eu plwyf i ysgogi sborynnu mewn sbesimenau atgenhedlu. Byddwn yn casglu sbesimenau gwyllt addas â llaw a dod â nhw i’r labordy. Yna byddwn yn eu golchi ac yn gwahanu darnau atgenhedlu oddi wrth weddill y ffrond. I ysgogi sboru, caiff y darnau eu trochi mewn dŵr môr hidledig wedi'i oeri. Dylai hyn annog y meinwe atgenhedlu i ryddhau sborau, gan greu toddiant sborau crynodedig. Mae amryw o systemau poblogaidd ar gyfer sefydlogi’r sborau. Mae rhai ymchwilwyr yn defnyddio system sbŵl sy’n defnyddio llinyn neilon 2mm neu raff polypropylen 5mm. Yna, caiff y sbwliau neu'r fframiau eu soddi mewn dŵr môr hidledig sydd wedi’i gyfoethogi. Ychwanegir y toddiant sborau i hwn sy'n peri i'r gwymon sydd wedi'u hangori wrth y rhaff neu'r ffrâm dyfu.