UWB Crest

Cynhwysion Newydd o Riniau Gwymon

Partneriaid

Cwmni sy’n ymwneud â ffermio'r gragen las, M. Edulis, yw Deepdock Ltd. Y fethodoleg a ddefnyddir i ffermio yw meithriniad gwaelodol neu ddull yr Iseldiroedd. Mae Deepdock Ltd yn gweithredu mewn 2 ardal a logir gan Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr yng Nghaergybi ac ym Mae Abertawe, ac mae gan y cwmni ddau gwch. Mae’r cwmni’n bwriadu ffermio cregyn gleision a gwymon gyda'i gilydd.


Leslie Parsons & Sons ltd yw prif gynhyrchydd bara lawr, sy’n fath o fwyd Cymreig traddodiadol sydd wedi’i wneud o Fara Lawr, sef Porphyra Umbilicalis. Disgwylir i'r cwmni gynyddu ei werthiant ar ôl cyhoeddi gwybodaeth am fioactifau diddorol sydd yn y bara lawr. Bydd yn cyfrannu samplau, ac yn cefnogi astudiaethau sy’n ymwneud â chasglu gwymon gwyllt.

Mae BioCatalyst Ltd yn cynhyrchu ensymau arbenigol sy’n ymwneud â datblygu a gweithgynhyrchu ensymau ar gyfer y diwydiannau bwyd a diod, amgylcheddol, proteinau a thecstilau.


Mae Marlow-Foods yn cynhyrchu Quorn. Bydd y prosiect hwn yn edrych ar y posibilrwydd o gyfnewid gwynnwy am brotein gwymon mewn cynnyrch Quorn. Os yw hyn yn llwyddiant, mae'n golygu y bydd modd datblygu'r cynnyrch ar gyfer y farchnad fegan a fydd o gymorth mawr i leihau ôl troed carbon y Quorn.


Mae Beaumaris Ltd yn ddarparwr technoleg, sy'n arbenigo mewn bioburo gwlyb. Mae cyfarwyddwyr y cwmni wedi llunio proses wedi’i phatentu, sydd wedi bod yn sail i ffatri yn Sgandinafia, a dyma'r fioburfa wlyb gyntaf yn Ewrop i gynhyrchu betaglwconau ceirch. Mae'r Cwmni'n disgwyl trwyddedu technoleg bioburo gwlyb yng Nghymru.

Cwmni sy’n darparu technoleg ar gyfer y diwydiant bwyd yw Nandi. Mae'r cwmni’n arbenigo mewn prosesu proteinau ac yn cydweithio’n agos â Marlow Food.

Mae gan New Food Innovations arbenigedd ym maes arloesedd agored a datblygu cynnyrch newydd. Bydd y cwmni yn helpu cynhyrchwyr bwyd i ddatblygu cynnyrch newydd a ffyrdd newydd o ddefnyddio rhiniau gwymon.


Mae Unilever yn frand byd-eang a fydd yn un o brif randdeiliaid y prosiect. Bydd yn cynnig cyngor a gwasanaeth mentora ac yn dadansoddi’r cynnyrch ar gyfer y consortiwm.

Mae partneriaid academaidd Prifysgol Bangor o fewn y Coleg Gwyddorau Naturiol. Cynigir arbenigedd ym maes ffermio gwymon drwy’r Ysgol Gwyddorau Eigion a’r Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol. Mae hon yn ganolfan ragoriaeth sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol sy’n gweithio i helpu’r diwydiant morol yng Nghymru. Mae’n gweithio ar ystod o brosiectau cymwysedig ac yn trosglwyddo technolegau i’r sector morol. Mae’n cynnig arbenigedd ym maes isrannu biomas ac echdynnu CO2 critigol drwy'r Sefydliad Cymreig dros Adnoddau Naturiol a’r Ganolfan Biogyfansoddion.