UWB Crest

Cynhwysion Newydd o Riniau Gwymon

Echdynnu CO2

Techneg Echdynnu Gynaliadwy
Crëir carbon deuocsid yn sgil llawer o weithgareddau bob dydd, ac mae hefyd yn sgil-gynnyrch y diwydiannau bragu a chemegol. Mae'r twf diweddar mewn cynhyrchu biodanwyddau megis bioethanol yn golygu bod cyflenwad cynaliadwy o C02 pur iawn ar gael yn rhwydd. Mae pawb yn derbyn fod CO2 yn doddydd gwyrdd, glân (rhad, anwenwynig, anfflamadwy y gellir ei ailgylchu) ac y gellir ei ddefnyddio i baratoi rhiniau “organig” mewn sawl gwlad. Yn ogystal, nid oes gan CO2 arogl na blas ac nid yw’n gadael gwaddod yn y rhin neu’r defnydd sydd wedi’i echdynnu, sy’n golygu ei fod yn addas ar gyfer bwyd, gofal personol neu gymwysiadau ag iddynt fanteision fferyllol i iechyd.


Targedu Manwl

Mae modd echdynnu gan ddefnyddio CO2 ar ffurf hylif neu yn ei gyflwr uwchgritigol ac mae’r dewis yn dibynnu i raddau helaeth ar doddadwyedd y moleciwlau sydd i'w hechdynnu. Mae CO2 yn ei ffurf hylifol gryn dipyn llai polar na CO2 uwchgritigol ac ni ellir ond ei ddefnyddio yng nghyswllt moleciwlau bychain nad ydynt yn bolar. Yn ei gyflwr uwchgritigol mae CO2 yn doddydd hyblyg iawn ac mae addasu’r tymheredd a’r pwysedd yn golygu bod modd dewis pa foleciwlau i'w hechdynnu o amrediad eang o foleciwlau. Mae gan CO2 uwchgritigol ludedd a thensiwn arwyneb isel. Felly mae modd cael cyfraddau trosglwyddo uchel o ran mas, gan greu'r amodau delfrydol ar gyfer echdynnu cyfansoddion gyda chyfradd adfer uchel mewn cyfnod byr o amser ac sydd hefyd yn cynnig dull rhwydd o wahanu cynnyrch.