UWB Crest

Cynhwysion Newydd o Riniau Gwymon

Gofalu Personol

Cynhwysion Naturiol
Bydd y prosiect hwn yn targedu’r angen am gynhwysion newydd gweithredol nad ydynt yn deillio o anifeiliaid. Bydd yn mynd i’r afael â’r angen am wrthocsidyddion newydd, a defnyddiau gwrth-UF drwy fanteisio ar y ffaith mai’r moleciwlau gwrth-UF mwyaf pwerus a gynhyrchir gan natur yw metabolion eilaidd algâu brown (amino-asidau myco-sborinaidd). Byddwn yn manteisio hefyd ar nodweddion hydrocoloid gweithredol yr isrannau gwymon hyn ac yn eu defnyddio i gynorthwyo'r sector cosmetig.


Mwynau o wymon
Mae gwymon yn casglu amrywiaeth eang o fwynau ac mae rhiniau mwynau o wymon eisoes wedi'u rhoi ar y farchnad. Mae’r rhiniau hyn yn cael eu defnyddio helaethaf mewn fformiwlâu gofal personol yn hytrach na mewn bwyd.