UWB Crest

Cynhwysion Newydd o Riniau Gwymon

Ffracsiynu Gwlyb

Offer pwrpasol ar gyfer isrannu biomas gwlyb yn y Ganolfan Trosglwyddo Technoleg BioBuro
Ar hyn o bryd, mae'r Ganolfan BioGyfansoddion yn buddsoddi mewn offer isrannu biomas gwlyb ar raddfa beilot a gaiff ei osod yn y Ganolfan Trosglwyddo Technoleg BioBuro a BioGynhyrchion sydd wedi’i lleoli yn Mona ar Ynys Môn. Bydd yr offer wedi cael ei gomisiynu erbyn Pasg 2013 a bydd yn cael ei ddefnyddio i isrannu biomas gwlyb (deunyddiau planhigion) yn nifer o gynnyrch gwerth uchel i'w defnyddio yn y sectorau cosmetigau a bwyd a’r sector cynnyrch ag iddo fanteision fferyllol i iechyd. Nod yr offer fydd dangos i fyd diwydiant bod modd defnyddio ensymau, yn hytrach na chemegau, i wahanu’r biomas i’w ddarnau cydrannol.

Elfen hollbwysig o’r buddsoddiad hwn yw dylunio system bwrpasol sy’n hyblyg ac sy’n defnyddio technegau prosesu o’r radd flaenaf ar gyfer y biomas gwlyb.

Defnyddir y cyfleuster arddangos peilot i brosesu amrywiaeth eang o ddeunyddiau crai o rawn (e.e. ceirch a reis), hadau olew (e.e. had rêp), gwaddodion llysiau a ffrwythau a biomas morol.