UWB Crest

Cynhwysion Newydd o Riniau Gwymon

Cyfarfod â’r Tîm

Y Tîm Academaidd


Dr. Rob Elias, y Sefydliad Cymreig dros Adnoddau Naturiol (WINR), Prifysgol Bangor

Rob yw Cyfarwyddwr y WINR ac mae’n rheoli nifer o brosiectau gyda ffocws ar ddiwydiant sy’n ceisio datblygu nwyddau sy'n seiliedig ar gynnyrch bio. Yng nghyswllt y prosiect hwn, ef fydd yn gyfrifol am reolaeth gyffredinol y prosiect a bydd yn goruchwylio ac yn hwyluso'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni nodau'r prosiect. Mae gan Rob hanes llwyddiannus ym maes rheoli prosiectau ac mae ganddo dros 15 mlynedd o brofiad mewn cyflawni prosiectau cydweithio ym maes ymchwil a datblygu. Mae’n un o hyrwyddwyr y sector biogynnyrch ac mae ganddo arbenigedd ym maes datblygu cynnyrch newydd. Mae ganddo gefndir technegol ym maes cemeg defnyddiau ac mae wedi dal swyddi uwch ym myd diwydiant.


Yr Athro Ray Marroitt, WINR

Mae Ray yn arbenigo mewn defnyddio CO2 critigol i echdynnu defnyddiau biomas. Mae ganddo brofiad diwydiannol mewn datblygu busnesau echdynnu biogynnyrch ac ef yw un o arbenigwyr y DU yn y sector hwn.


Dr Adam Charlton, WINR

Adam sy'n rheoli ac yn rhedeg y prosiect BEACON. Mae’n gemegydd ymchwil ac mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad mewn rheoli prosiectau gwyddonol. Ei rôl bresennol yw rheoli'r Ganolfan Trosglwyddo Technoleg BioBuro a BioGynnyrch sydd newydd ei sefydlu. Yma y lleolir y cyfleuster cynhyrchu ar raddfa beilot ar gyfer isrannu gwlyb.


Dr. Lewis LeVay, Ysgol Gwyddorau Eigion (SOS), Prifysgol Bangor

Mae Lewis Le Vay BSc yn Ddarlithydd Uwch mewn Dyframaethu ac yn arweinydd academaidd y Grŵp Bioleg Forol Gymhwysol yn y Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol. Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad ym maes dyframaethu.


Dr. Jonathan King, y Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol (CAMS), SOS

Mae Dr Jon King yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol lle mae’n rheoli ac yn cyfrannu at brosiectau ymchwil gymhwysol sy'n cefnogi anghenion diwydiant. Mae ganddo 22 flynedd o brofiad mewn gwyddorau môr cymhwysol a masnachol sy'n cynnwys arolygon maes, gwasanaeth ymgynghori a dyframaethu. Mae prosiectau perthnasol yn cael eu cynnal ar hyn o bryd ym maes amaethu môr, gan gynnwys dyframaethu ar y môr, ynni adnewyddadwy a defnydd amlsector o safleoedd ar y môr. Yng nghyswllt y prosiect hwn bydd yn cyfrannu at y pecyn gwaith cynhyrchu gwymon.

Y Tîm Diwydiannol


Colin Macdonald, Leslie Parsons & Sons Ltd
Rheolwr Gyfarwyddwr Leslie Parson & Sons ers 10 mlynedd. Mae’r cwmni'n cyflogi 25 gweithiwr amser llawn yn ei ganolfan ym Mhorth Tywyn. Mae wedi ennill nifer o wobrau am safon y bwyd, megis gwobr Cyfraniad at Ddatblygu Cynaliadwy (C2SD) Gwobrau Gwir Flas.


James Wilson, Deepdock Ltd

Rheolwr Gyfarwyddwr a pherchennog Deepdock. Mae gan James Wilson MSc mewn Gwyddorau Eigion ac fe gychwynnodd y cwmni o ddim. Erbyn hyn mae gan y cwmni ddau gwch mawr ac ef yw cynhyrchydd cregyn gleision mwyaf y DU.


Andrew Ellis, BioCatalyst Ltd
Rheolwr Ymchwil a Datblygu. Mae Andrew yn rheoli’r tîm Datblygu Cynnyrch Newydd ac ef sy’n gyfrifol am hyrwyddo arloesedd, yn ogystal ag ysgogi syniadau am gynnyrch newydd i sicrhau bod y cwmni'n aros ar flaen y gad o ran datblygu technoleg.

Yr Athro Mark Lawther, Beaumaris Technology Ltd
Rheolwr Gyfarwyddwr. Mae’r Athro Mark Lawther yn academydd sy’n cyflwyno arloesedd i'r byd diwydiannol. Mae wedi datblygu’r cysyniad o fioburo gwlyb ac mae ganddo sawl patent yn y maes. Sefydlodd y ffatri gyntaf i ddefnyddio cysyniadau bioburo gwlyb i gynhyrchu betaglwcan ceirch yn Sweden (Biovelop)

Tim Finnegan, Marlow Foods
Tim Finnegan yw Rheolwr Gyfarwyddwr Marlow Food. Mae'n arbenigwr adnabyddus ym maes cynhyrchu mycoprotein, ac mae ganddo nifer o batentau yn y maes.

Lydia Campbell, Nandi Protein Ltd
Lydia yw Prif Swyddog technoleg Nandi. Bu'n gweithio fel pennaeth ymchwil protein Nestle a chwaraeodd ran bwysig yn y gwaith o sefydlu Nandi Protein. Bydd y cwmni’n gweithio fel cyflenwr technoleg ar gyfer Marlow Foods.

Alan Marson, New Food Innovation
Bu Alan yn gweithio i Rank Hovis McDougall a Premier am 30 mlynedd. Mae wedi datblygu busnes seiliedig ar gynnyrch newydd, gan ddechrau o ddim a chynyddu’r refeniw o’u gwerthu i hyd at £50 miliwn. Mae bellach wedi sefydlu ei gwmni ei hun ac ef fydd yn hyrwyddo arloesedd yn y prosiect.

Neil Pary, Unilever
Neil yw Pennaeth arloesedd ym maes cadwyni cyflenwi ymyriadol a bydd yn rhanddeiliad yn y prosiect.