Diwydiant byd-eang
Mae’r diwydiant gwymon byd-eang werth oddeutu US $6 biliwn, a daw 80% o'r refeniw hwn o gynnyrch bwyd. Defnyddir deilliadau gwymon mewn bwydydd sydd wedi’u prosesu, cynnyrch llaeth, cosmetigau, diwydiannau fferyllol, meddyginiaeth a gwrteithiau ar gyfer yr ardd. Mae’n bosibl y gallent fod yn ffynonellau dibynadwy o broteinau ‘bioactif’, polysacaridau, gwrthocsidyddion ac asidau brasterog defnyddiol.
Marchnad sy’n datblygu
Gyda chymaint o ffyrdd gwerthfawr o ddefnyddio’r cynnyrch, mae diwydiannau ffermio gwymon wedi datblygu ac erbyn hyn maent yn cynhyrchu dros 90% o'r galw yn y farchnad. Mae mwy a mwy o ddiddordeb mewn datblygu ffermio gwymon yn fasnachol o gwmpas Ynysoedd Prydain, gyda llawer o fentrau’n canolbwyntio ar eu defnyddio mewn biodanwyddau. Mae ffocws gwahanol i’r prosiect cyfredol, sef ar y cyfleoedd sylweddol i’w ddefnyddio mewn ffyrdd mwy gwerthfawr ym maes bwyd. Yn ogystal ag arbrofi â chynhyrchu gwymon mewn amgylchedd ar y môr yn Nwyrain Môr Iwerddon, rydym yn canfod ac yn puro deilliadau gwerth uchel o amryw o rywogaethau gwymon.