UWB Crest

Cynhwysion Newydd o Riniau Gwymon

Cynhwysion Bwyd Swyddogaethol

Cynhwysion Newydd gyda Manteision i Iechyd
Mae galw am fwydydd newydd sy'n ymdrin â'r epidemig gordewdra sy’n prysur gynyddu ac afiechydon cysylltiedig megis diabetes a chlefydau cardiofasgwlaidd. Mae hefyd angen lliniaru symptomau rhai clefydau cysylltiedig â henaint, megis MS ac Alzheimers.


Cynhwysion sy’n gostwng colesterol
Drwy ddefnyddio CO2 uwchgritigol i echdynnu rhiniau o’r gwymon, cynhyrchir rhin sydd â chyfoeth o lipidau a sterolau ynddo. Bydd gan y rhain werth maethol fel ffynhonnell o sterolau planhigion ac asidau brasterog omega-3 a ddefnyddir i ostwng colesterol.


Gwrthocsidyddion
Drwy ddefnyddio toddyddion mwy polar, megis ethanol, i echdynnu, ceir rhiniau sy’n cynnwys y pigment fucosanthin. Honnir bod hwn yn helpu i leihau braster y corff a defnyddir ef mewn atchwanegiadau maethlon. Disgwylir hefyd y bydd y rhiniau hyn yn cynnwys cyfansoddion ffenolig sy’n wrthocsidyddion cryf.


Rhiniau y gellir eu defnyddio yn lle halen
Drwy ddefnyddio dŵr i echdynnu, ceir asidau amino, peptidau a phroteinau y gellir eu defnyddio yn lle halen mewn bwyd, sy'n ddefnydd pwysig iawn ar adeg lle ceir pwyslais ar ddefnyddio llai o halen. Y peptidau hyn sy’n gyfrifol am y blas umami sydd, er ei fod yn wahanol i “flas hallt”, yn ychwanegu blas sawrus dymunol at fwyd.


Gwrthgeulyddion

Bydd echdynnu â dŵr hefyd yn cynhyrchu’r gwymon bwyta, yr alginadau a'r polysacaridau cyfarwydd ond yn ogystal â hyn, bydd yn cynhyrchu polysacaridau sylffadaidd unigryw megis fucoidanau. Astudiwyd llawer ar y polysacarid hwn ac mae ganddo ddefnydd penodol fel gwrthgeulydd.

Proteinau i’w defnyddio yn lle proteinau anifeiliaid
Yn ogystal ag ychwanegion bwyd gweithredol gyda manteision iechyd mae cwmnïau’n chwilio am broteinau i’w defnyddio yn lle proteinau anifeiliaid. Ar hyn o bryd defnyddir protein gwynnwy mewn cynnyrch Quorn. Bydd y prosiect hwn yn edrych ar y posibilrwydd o gyfnewid gwynnwy am brotein gwymon. Os bydd hyn yn llwyddiant, mae'n golygu y bydd modd datblygu'r cynnyrch ar gyfer y farchnad fegan a fydd o gymorth mawr i leihau ôl troed carbon y Quorn.