UWB Crest

Cynhwysion Newydd o Riniau Gwymon

Amdanom ni

Mae’r prosiect NISE yn ymchwilio i dyfu rhywogaethau detholedig o wymon brodorol, a defnyddio rhiniau ohonynt mewn ffyrdd gwerthfawr megis fel ychwanegion bwyd gweithredol ac fel ychwanegion gweithredol ar gyfer y sector cosmetigau.

Ymdriniaeth Newydd
Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar wahanu nifer fechan, ond gwerthfawr, o gemegau arbenigol, sy’n ymdriniaeth wahanol iawn i brosiectau eraill cyfredol yn y sector hwn. Er enghraifft, mae’r rhaglen EnAlgae yn canolbwyntio ar gynhyrchu nifer fawr o gynnyrch gwerth isel, megis biodanwyddau, o algâu.


Cadwyn Gyflenwi Gynaliadwy Uchel ei Gwerth
Mae'r prosiect yn hwyluso'r defnydd o wymon brodorol Cymru, a gynhyrchir drwy feithriniad morol sy’n gysylltiedig â'r diwydiant cynhyrchu cregyn gleision presennol. Bydd Isrannau o ddeunyddiau crai yn cael eu gwahanu er mwyn eu troi'n gynnyrch gwerth uchel ar gyfer y diwydiant cosmetig a bwyd ymhellach ymlaen. Mae gan Brifysgol Bangor hanes o lwyddiant sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol ym maes dyframaethu morol ac echdynnu cemegau planhigion o fiomas. Bydd yr arbenigedd hwn o gymorth i Fusnesau Bach a Chanolig (BBaCh) yng Nghymru sy'n ymwneud â chynhyrchu, paratoi a defnyddio isrannau gwymon i ddarparu amrediad o gynnyrch fel rhan o ddolen gyflenwi integredig.