UWB Crest

Cynhwysion Newydd o Riniau Gwymon

Rhywogaethau

Mae’r gair Gwymon yn derm torfol am algâu morol amlgellog, macrosgopig sy’n cynnwys algâu gwyrdd, brown a choch. Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar ymchwilio i brosesu ac echdynnu’r ystod o wymon Cymreig lleol a nodir isod, sydd, yn draddodiadol, wedi cael eu defnyddio mewn cymwysiadau bwyd


Saccharina latissima
• Alga brown (dosbarth - Phaeophyceae), sy'n perthyn i'r teulu Laminariaceae. Mae hefyd yn cael ei adnabod wrth ei enw cyffredin, sef gwregys y môr. Mae i’w weld o’r ymyl isarforol i lawr i ddyfnder o 30 m.
• Yn nodweddiadol, caiff ei gasglu er mwyn ei ddefnyddio ar gyfer ‘Kombu Royale’, sy’n fath o ‘Kombu’ y mae galw mawr amdano. Ychwanegyn Siapaneaidd traddodiadol sy'n seiliedig ar wymon yw Kombu sy'n cael ei ddefnyddio mewn stiwiau ffa o bob math. Mae Saccharina latissima yn wymon y rhoddir pwys mawr arno oherwydd ei fod yn felysach na gwymon eraill gan fod y ffrondau yn cynnwys y siwgr manitol.


Palmaria palmata (Dulse)

• Gwymon coch cyffredin (Rhodophyta) yw'r palmaria sy’n tyfu mewn ardaloedd rhynglanw ac islanw bas i lawr i ddyfnder o 20 m ar lannau creigiog. Cafodd ei enw oherwydd ei fod yn debyg i gledr llaw (Lladin, palma).
• Mae’n wymon maethlon, sy’n cynnwys yr holl elfennau hybrin y mae bodau dynol eu hangen ac sy’n cynnwys 35% o brotein yn ogystal ag amrywiaeth eang o fitaminau a mwynau, gan gynnwys magnesiwm, haearn a beta carotene
• Cesglir Dulse oherwydd ei fanteision iechyd ac er mwyn ei ddefnyddio i wneud cynnyrch cosmetig a gofal croen. Caiff ei ddefnyddio'n gyffredin fel bwyd a meddyginiaeth.


Ulva lactuca
• Gwymon gwyrdd cyffredin (Chlorophyta) sy’n cael ei adnabod yn gyffredin fel gwylaeth y môr neu'r letysen fôr. Mae i'w weld ynghlwm wrth greigiau neu algâu eraill yn y gylchfa rhynglanw ar draethau o amgylch Ynysoedd Prydain a’r byd
• Mae'n ffynhonnell gyfoethog iawn o haearn a gellir ei bwyta’n amrwd fel llysieuyn salad, neu ei sychu yn yr aer a’i ddefnyddio mewn cawl neu ei wasgu yn haenau tenau.

Porphyra spp. (Nori)
• Porphyra yw’r enw a roddir i fath o wymon coch sy’n tyfu mewn ardaloedd rhynglanw ac islanw bas mewn dyfroedd arfordirol o amgylch y byd. Mae “Lafwr”, “Nori", a “kim” i gyd yn enwau cyffredin ar Porphyra.
• Nori yw’r gwymon du porfforaidd sydd yn aml i'w weld wedi'i lapio o amgylch dyrnaid bach o reis mewn sushi. I raddau helaeth, caiff ei ffermio yn Japan, Gweriniaeth Corea a Tsieina.
• Mae Nori yn tyfu fel llafn cochlyd, fflat tenau iawn yn y cylchfeydd rhynglanw mwyaf tymherus o amgylch y byd
• Mae blas nodweddiadol Nori i’w briodoli i bresenoldeb tri asid amino, sef: alanin, asid glwtamig a glysin.