UWB Crest

Cynhwysion Newydd o Riniau Gwymon

Prosesu

Echdynnu Wedi'i Dargedu
Gwyddom fod gwymon yn llawn carbohydradau, proteinau a mwynau yn ogystal â chyfansoddion bioactif. Mae polaredd a maint y moleciwlau targed sydd i’w hechdynnu yn amrywio’n fawr. Dewiswyd technegau echdynnu sy’n echdynnu’r rhain yn eu trefn gan ddechrau gyda’r moleciwlau lleiaf polar a lleiaf o ran maint, lipidau a sterolau er enghraifft, hyd at y macromoleciwlau polar megis polysacaridau a phroteinau.


Prosesu Gwyrdd
Wrth echdynnu fel hyn rydym yn ceisio defnyddio’r dulliau echdynnu glanaf a mwyaf effeithiol a byddwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio toddyddion megis carbon deuocsid, ethanol a dŵr. Yn ogystal byddwn hefyd yn edrych ar drin y gwymon ymlaen llaw er mwyn ei gwneud yn hawdd cael gafael ar y moleciwlau. Bydd hyn yn cynnwys isrannu sych a gwlyb, gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau, ond gan ystyried bob amser y rhai sy’n defnyddio’r lleiaf o ynni wrth sicrhau'r canlyniadau a ddymunir.


Ffatri Beilot (2 x echdynnwr 16 litr)